Friday, August 26, 2016

Cywiriad bach

Dwi'n gwybod bod cynghorydd yn ymddiswyddo o'r grwp Llafur ar Gyngor Caerdydd yn ddigwyddiad eithriadol o gyffredin, ond mae'r Bib yn gor wneud pethau braidd yn yr adroddiad isod.  

Ward yng Nghasnewydd ydi St Julians, a chynghorydd yn y ddinas honno ydi Rhys Hutchings.


1 comment:

Anonymous said...

Ymadawiad y diwrnod :

http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/236587-glyn-wise-yn-gadael-plaid-cymru

Mae'n codi cwestiwn bach digon dyrys - i bwy y dylai cenedlaetholwyr Cymreag adain-dde bleidleisio ?.
Nid oes modd osgoi'r casgliad fod nifer o Gymry Cymraeg, pleidwyr pybyr yn eu plith, wedi mynd i boeni'n arw am fewnfudo. Nid yw eu teimladau'n cael eu mynegi mor drwsgwl a rhai y Bonwr Wise, ond maent yn bodoli serch hynny.
Pwy arall oedd yn dymuno cael eu henwebu fel ymgeisyddion ar gyfer yr etholaeth y bu'n ymladd amdani, tybed. Mae'n siwr fod cwestiynau digon dilys ganddynt hwythau am effeithiolrwydd y broses ddewis.