Wednesday, November 16, 2016

Ai'r polau piniwn oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump?

Wna i byth brofi hon - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai'r polau piniwn a'r consensws bod Clinton am ennill a grewyd ganddynt - oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Trump.

Tra bod buddugoliaeth Trump yn ddychrynllyd, mae elfennau o'r ymgyrch y dylid eu hedmygu - yn arbennig felly'r targedu o ran gul - ond allweddol - o'r etholwyr, a'r ddisgyblaeth wrth barhau i dargedu'r bobl hynny trwy pob dim.  Caniataodd hyn i Trump ennill yr etholiad er iddo gael cryn dipyn llai o bleidleisiau na Clinton.

Mae'r hyn ddigwyddodd yn sylfaenol syml.  Gwnaeth Trump yn dda a Clinton yn wael mewn rhannau o'r penodol o'r UDA - yn yr Upper Mid West ac mewn taleithiau cyfochrog yng Ngogledd Ddwyrain yr UDA.  Mae'r taleithiau hyn yn gymharol dlawd, gyda rhannau sylweddol ol ddiwydiannol a chyda mwyafrif sylweddol o etholwyr gwyn.  Roedd Clinton yn gwneud yn dda mewn ardaloedd diogel i'r Democratiaid - California neu Efrog Newydd, neu rai ardaloedd diogel i'r Gweriniaethwyr - Georgia neu Texas er enghraifft.  Yn anhygoel mae'r bwlch rhwng y Gweriniaethwyr a'r Democratiaid yn Ohio ac yn Texas yn debyg iawn erbyn hyn.  

I gael syniad o pam mor agos oedd pethau mewn gwirionedd ystyrier y canlynol:

Roedd mwyafrif Trump yn Michegan yn 11,832, o tua 4.6 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Wisconsin yn 27,257, o tua 2.9 miliwn o bleidleisiau.
Roedd mwyafrif Trump yn Pennsylvania yn 68,228 o tua 5.9 miliwn o bleidleisiau.

Mae'r cyfanswm yn tua 107,000 neu 0.09% o'r etholwyr tros y wlad. Byddai Trump wedi colli pe na byddai wedi ennill yn y dair talaith hanesyddol Ddemocrataidd yma.  

Rwan roedd y polau yn awgrymu y byddai Clinton yn ennill o tua 3.2% erbyn y diwedd.  Daeth y cyfryngau a'r marchnadoedd betio i'r casgliad bod Clinton yn siwr o ennill yn hawdd ar sail y polau hynny.  Gallai canfyddiad felly fod wedi arwain at deimlad ymysg llawer o Ddemocratiaid nad oedd pwrpas mynd i giwio y tu allan i orsaf bleidleisio - a gallai'r ffaith bod Clinton yn ymgeisydd oedd a delwedd negyddol i lawer, a bod ei gwrthwynebydd wedi bod yn ei phardduo ar y cyfryngau yn ddyddiol am fisoedd fod wedi cryfhau'r tueddiad i beidio a thrafferthu mynd allan i bleidleisio iddi. Ychydig iawn o bobl - yn ganrannol - fyddai wedi gorfod aros adref yn Michegan, Wisconsin a Pennsylvania i wneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli i'r naill ymgeisydd neu'r llall.

Os ydi ras yn agos, y peth diwethaf mae ymgeisydd ei angen ydi polau sy 'n awgrymu y byddant yn ennill yn hawdd.



2 comments:

Anonymous said...

Dwi ddim yn siwr faint o sail sydd i'r ddamcaniaeth hon.

Oni allai'r gwrthwyneb fod yn wir- h.y fod y polau fu'n rhoi Clinton ar y blaen mor hir wedi perswadio llawer o bobl nad oedd pwynt fotio i Trump? Ac onid hynny mewn gwirionedd oedd prif dacteg y cyfryngau torfol oedd mor bleidiol iddi hi?

Yn bersonol, dwi'n falch iawn na chafodd y rhyfelgi dychrynllyd hon, sydd a gwaed cymaint o bobl diniwed Libya ar ei dwylo ei hethol. Beth bynnag yw gwendidau Trump, ac mae yna restr faith o rheiny-mae'r byd yn le saffach heb Hilary Clinton yn y Ty Gwyn.

Cai Larsen said...

Y pwynt dwi'n meddwl ydi bod mwy o dan ym moliau cefnogwyr Trump - mae yna gryn dystiolaeth polio tros hynny. Mae'r llugoer yn llai tebygol o fotio os nad oes yna bwynt gwneud hynny.

Hefyd wrth gwrs - roedd llawer o gefnogwyr Trump yn credu bod rhyw gynllwyn anferth yn ei erbyn - felly doedden nhw ddim yn credu'r polau.

Yn amlwg doedd y cwmniau polio ddim yn cam liwio pethau - mae eu busnes yn dibynnu ar fod yn gywir.