Wednesday, November 09, 2016

Buddugoliaeth Trump - ychydig o sylwadau cychwynol

Aw!  Yr unig gysur o alw rhywbeth fel hyn yn anghywir debyg ydi bod bron iawn i'r holl gwmniau polio, y marchnadoedd betio a'r holl wybodysion.  Ond anghywir ydi anghywir am wn i.

Cawn weld tros y blynyddoedd nesaf os bydd yr enwog wal yn cael ei chodi, os bydd 14 miliwn o fewnfudwyr answyddogol yn cael eu hel adref, os bydd pob cytundeb masnach yn cael ei ail negydu (a lle bydd Prydain ol Brexit yn y ciw arbennig hwnnw), os bydd Mwslemiaid yn cael eu hatal rhag teithio i America, os bydd cyfyngu ar fasnach a gweddill y Byd yn creu cyfoeth adref am unwaith, os bydd system iechyd Obama yn cael ei ddatgymalu, os bydd America'n gadael y WTO, os bydd cytundeb Paris ar newid hinsawdd yn cael ei ddiddymu, os bydd De Corea a Japan yn cael eu hannog i gael eu harfau niwclear eu hunain, os bydd treth corfforaethol yn cael ei ostwng 20%, os y bydd Trump yn carcharu ei wrthwynebydd ac ati, ac ati.  

Ta waeth erbyn meddwl mae yna ddarn o gysur i'w gymryd o'r holl beth - ymddengys bod ein cyfeillion yn y Blaid Geidwadol Gymreig wrth eu bodd - er iddynt gadw'n sobor o ddistaw cyn i'r canlyniad gael ei ddatgan.





Mi wnawn ni hepgor y demtasiwn i chwerthin ar ben y syniad o Doriaid yn meddwl bod y sefydliad gwleidyddol yn rhywbeth sy'n ddim oll i'w wneud a nhw, a wnawn ni ddim trafferthu son gormod am y pwynt amlwg bod y ffin rhwng y Toriaid Cymreig  ac UKIP yn gyflym erydu - ond hoffwn wneud un sylw bach digon Toriaidd. 

 Mae'r rhan fwyaf o'n cyfeillion Toriaidd yng Nghymru wedi cefnogi Brexit - rhywbeth sy'n debygol o leihau masnach ryngwladol yn sylweddol.  Mae'n ymddangos bod nifer hefyd yn cefnogi Trump - ac mae ei bolisiau 'America yn gyntaf' hefyd am gyfyngu ar fasnach rhyngwladol - yn arbennig efo blociau masnachu bach fel y DU.  Mae cyfyngu ar fasnach yn arwain at grebachu economaidd - mae hynny'n dilyn fel mae dydd yn dilyn nos.  Pa fath o Dori sydd eisiau crebachu economaidd?  




No comments: