Saturday, November 12, 2016

Ynglyn a'r polau piniwn

Gan bod Dan yr Wyneb wedi gofyn i mi ddweud pwt am bolio yn sgil y methiant polio yn yr etholiad arlywyddol yr wythnos yma, a gan fy mod wedi bod yn edrych ar y pwnc yn sgil hynny waeth i mi ddweud gair neu ddau yma am y pwnc hynod gymhleth hwn.


Dyma i chi dair egwyddor i ddechrau efo nhw:

1). Mae polau piniwn pob amser yn anghywir - dydi hi ddim yn bosibl iddynt fod yn gwbl gywir gan bod yr hyn maent yn ei bolio - sef yr etholwyr sydd am bleidleisio - mewn cyflwr o newid parhaus.

2). Dydan ni ond yn poeni bod y polau'n anghywir pan maent yn darogan yr enillydd cywir (yn hytrach na'r canrannau anghywir).  Pan maent yn darogan enillydd cywir ond canrannau anghywir, rydan ni'n anghofio am y peth yn syth fwy neu lai.  

3). Mae pob cwmni polio yn torri eu bol eisiau bod yn gywir, ond mae yna rhywbeth sy'n bwysicach iddynt na bod yn gywir.  Mwy am hynny ar y diwedd.

Reit. 'ta, pam mor anghywir oedd y polau yn yr achos yma?   I ddechrau roedd y polau cenedlaethol yn gywir i'r graddau iddynt ddarogan pwy fyddai'n cael y mwyaf o bleidleisiau.  Fel rydw i'n 'sgwennu hyn mae Clinton ar y blaen o ran pleidleisiau ar draws y wlad, ac mae'r bwlch yn debygol o gynyddu gan fod y pleidleisiau sydd eto i'w cyfri yn dod o ardaloedd sy'n gefnogol i Clinton.  Collodd oherwydd ei bod wedi pentyru ei phleidleisiau mewn taleithiau megis yr arfordir gorllewinol oedd yn ddiogel iddi beth bynnag, ond colli seddi mewn ardaloedd ymylol - yn arbennig felly 'r rust belt.

Beth bynnag ar hyn o bryd mae Clinton ar y blaen o tua 0.2% - canran sy 'n debygol o dyfu.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu y byddai 3.2% ar y blaen.  Felly erbyn diwedd y cyfri byddant wedi tan gyfri'r bwlch o lai na 3%.  

Roedd y polau taleithiol yn yr ardaloedd a drodd at y Gweriniaethwyr hefyd yn anghywir - ond roedd yna fwy o amrywiaeth yno nag yn y polau cenedlaethol.

Beth ddigwyddodd yn 2012?  Wel, rhywbeth tebyg mewn ffordd.  Roedd y polau cyfartalog yn awgrymu buddugoliaeth gweddol fach i Obama - o tua 0.8%, ond aeth ati i ennill yn weddol hawdd - gyda 3.8% o oruwchafiaeth.  Mewn geiriau eraill roedd y gwall polio yr un faint - neu'n fwy - na'r gwall polio eleni, ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir wnaeth yna fawr o neb boeni am y peth.

Beth am Brexit felly?  Mae yna fytholeg wedi tyfu o gwmpas canlyniad Brexit  bod y polau i gyd yn anghywir.  Mae'n wir bod y polau yn gyfartalog anghywir - ond (yn wahanol i America 2016) roedd yna ddigonedd yn awgrymu mai Gadael fyddai'n mynd a hi. Er enghraifft roedd polau olaf Opinium a TNS a phol diwethaf ond un YouGov yn awgrymu mai Gadael fyddai'n ennill o drwch blewyn.  Y marchnadoedd betio gafodd pethau'n anghywir go iawn - ac mae'n debyg bod rheswm gweddol hawdd i'w arenwi am hynny.  Roedd y polau (at ei gilydd) wedi cael canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban yn anghywir yn yr ystyr eu bod wedi darogan buddugoliaeth gweddol fach i'r ochr Aros, ond bod y bwlch mewn gwirionedd yn fwy - tua 10%. Roedd hyn yn cyd fynd yn weddol dda efo hen batrwm mewn refferenda Prydeinig bod gogwydd munud diwethaf tuag at y status quo.  Wnaeth hyn ddim digwydd y tro hwn - am resymau rydym eisoes wedi cyfeirio atynt yn y blog - ac o ganlyniad cafodd y marchnadoedd betio bethau'n anghywir, a chollodd lawer iawn o bobl lawer iawn o bres.  

Y camgymeriad polio mwyaf enwog yn ystod fy mywyd i oedd y polio yn yr wythnosau cyn etholiad cyffredinol 1992. Roedd disgwyliad clir y byddai Plaid Lafur Kinnock yn ennill buddugoliaeth glir ond cul, neu o leiaf yn cael digon o bleidleisiau i fod y blaid fwyaf yn San Steffan.  Cafodd Toriaid John Major fuddugoliaeth  gyfforddus a chafodd y diwydiant polio sesiwn hir o syllu'n bruddglwyfus ar ei fotwm bol.  Ac ar ol syllu am hir daeth i ganlyniad - bai y sawl oedd yn cael eu polio oedd pob dim - nid bai y polwyr.  Roedd yr etholwyr yn dweud celwydd wrth y cwmniau polio.  Felly crewyd y (yn fy marn i) myth o'r Tori swil - rhywun oedd yn pleidleisio i'r Toriaid, ond oedd a gormod o gywilydd o'r ffaith i gydnabod hynny i gwmni polio.  Newidwyd y fethodoleg i gymryd i ystyriaeth y Tori swil.

A wele cafwyd llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 1997 - roedd y polau i gyd yn dweud bod Blair am ennill, ac roeddynt yn gywir.  Ond wedyn roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod bod Blair am ennill bryd hynny.  O graffu ar y ffigyrau roedd record y cwmniau polio yn llai na gwych.  O'r 82 pol piniwn a gymerwyd cyn yr etholiad yn ystod 1997 llwyddodd 80 ohonyn nhw i or gyfrifo'r bleidlais Lafur - rhai ohonyn nhw o filltiroedd.  Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhoi 50%+ i Lafur, er mai 43.2% yn unig oedd eu pleidlais ar y diwrnod.  Felly er gwaetha'r addasu methodoleg i gymryd y Tori swil i ystyriaeth, roedd y cwmniau polio ymhellach o gael eu canrannau yn gywir nag oeddynt yn 2012 - ond gan bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn gywir, wnaeth neb boeni rhyw lawer am y peth.

Ac wedyn dyna i ni etholiad cyffredinol 2015 - methiant polio arall.  Roedd y polio yn fwy cywir o lawer na 1997  o ran darogan canranau canlyniadau, ond roedd yn anghywir o ran darogan yr enillydd. Roedd y gwendid mawr yn y polio yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn 1997 a 1992 - gor gyfrifo'r bleidlais Lafur, ac fel 1992 roedd y gwall yn ddigon i sicrhau bod yr enillydd wedi ei ddarogan yn anghywir.  Y disgwyl oedd y byddai yna senedd grog, gyda Llafur yn ennill mwy o seddi, os nad mwy o bleidleisiau.  Unwaith eto bu wylofain ac ysgyrnygu dannedd yn y diwydiant oherwydd i'r canlyniad gael ei alw'n anghywir.

Rwan, efallai fy mod i'n cymryd y diwydiant polio ychydig yn ysgafn - mae yna fodelu soffistigedig iawn ar waith ganddynt - maent byth a hefyd yn newid eu methodoleg ac addasu eu pwysiadau i geisio adlewyrchu'r boblogaeth pleidleisio - ond yn y diwedd maen nhw'n ceisio gwneud rhywbeth amhosibl - creu llun llonydd o lun sydd mewn gwirionedd yn newid yn barhaus.  Os nad ydi etholiad yn agos maen nhw am alw etholiad yn gywir pob tro.  Os ydi hi'n agos, maen nhw am gael pethau'n anghywir weithiau - traean yr amser o bosibl.  Rhaid derbyn hynny.

Ac un peth bach cyn gorffen - mae yna batrwm sydd wedi hen sefydlu mewn polio - sef bod y polau yn dod yn nes at ei gilydd tuag at ddiwedd ymgyrch etholiadol.  Mae yna reswm am hyn - mae rhai o 'r cwmniau polio yn dechrau copio methodoleg ei gilydd.  

I lawer o gwmniau polio, PR ydi polio gwleidyddol mewn gwirionedd - maent yn gwneud eu bara menyn gyda pholio masnachol. Byddai canlyniad cywir iawn i ddigwyddiad proffil uchel megis etholiad yn dod a busnes masnachol i'r cwmni.  Felly byddai unrhyw gwmni wrth eu bodd petaen nhw fyddai'r unig gwmni i ddarogan etholiad yn gywir.   

Ond byddai cael canlyniad anghywir sy'n waeth na chanlyniad pawb arall yn beth gwael iawn - ac os ydi cwmni yn cael canlyniadau sy'n wahanol i bawb arall mae'n debygol - er nad yn sicr o bell ffordd - mai nhw sy 'n anghwir.  Felly mae yna banig cyn etholiad os ydi canlyniadau cwmni ymhell ohoni, ac mae yna boetsian efo'r fethodoleg.  Mae hyn yn arwain at gywasgu canlyniadau - ac mae hynny yn y pen draw yn debygol o arwain at lai o gywirdeb, nid mwy.

No comments: