Monday, December 19, 2016

Etholwyr Meirion Dwyfor yn cael cynrychiolaeth nad ydynt ei heisiau

Felly ymddengys mai mewn enw'n unig mae Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Cynulliad annibynnol - bydd yn cefnogi'r weinyddiaeth Lafur am weddill tymor y Cynulliad yma.

Cafodd etholwyr Meirion Dwyfor gyfle i ethol cynrychiolydd fyddai'n cefnogi llywodraeth Lafur yn ddi amod yn ol ym mis Mai - a manteisiodd 2,443 -  neu 12.1% ohonynt ar y cyfle i bleidleisio tros hynny.  Pleidleosiodd 87.9% o etholwyr Meirion Dwyfor yn erbyn cynrychiolaeth felly.  Ond dyna maen nhw'n ei gael gan eu haelod Cynulliad beth bynnag.

Dydi o ddim ots am yr etholwyr - dymuniadau, ego a theimladau'r etholedig ydi'r pethau pwysig 'dach chi'n gweld.  Mae'r etholwyr bellach wedi cyflawni eu pwrpas a gellir anghofio am eu dymuniadau.


1 comment:

Anonymous said...

Fel Pleidiwr o Ynys Môn, ac aelod er y 1970au cynnar, ac sy’n cofio’n dda, mynd allan i ddosbarthu taflenni yn y gwynt a’r glaw, tra’n cefnogi DET ar gyfer sedd yn senedd Ewrop ym 1989, hoffwn ymddiheuro i etholwyr Meirion Dwyfor.
Oherwydd y fi, a’m tebyg, sydd i raddau helaeth, yn gyfrifol am ymddygiad sarrug a maleisus yr Arglwydd. Yn 2012, meiddiais bleidleisio dros Leanne Wood i fod yn arweinydd y Blaid, ac roedd canfod, drannoeth yr etholiad, mai cwta 20% o’r aelodau oedd wedi pleidleisio iddo fo, yn amlwg yn ergyd drom.
A dyna pham, ers 2012, rydym wedi gweld un stranc, ac un sylc, y naill ar ôl y llall. Mae DET yn amlwg yn credu ei fod wedi cael cam, a gwnaeth ei orau glas ers 2012, i wneud pethau’n anodd i Leanne.
Felly ymddiheuraf i drigolion Meirion Dwyfor – ond, serch hynny, nid ydwyf yn edifar o gwbl. Buaswn yn pleidleisio dros Leanne eto fory nesaf. Yn wir, mae ymddygiad Leanne trwy hyn oll, wedi bod yn gwbl glodwiw.
Urddas, wedi’r cyfan, yw un o brif nodweddion gwir arweinydd gwleidyddol.