Monday, February 13, 2017

Cwestiwn bach arall am S4C a'r Drindod

Tudalen ydi'r isod o gofnodion o gyfarfod o Bartneriaeth Sir Gaerfyrddin ar Fai 2 2014.  Mae'r eitem ar adleoli S4C yn ymwneud a'r fideo i gyflwyno cais y Drindod oedd wedi ei gyflwyno i S4C ychydig fisoedd ynghynt.  Roedd Coleg y Drindod wedi clywed eu bod wedi derbyn y lleoliad yn ystod y Mis Mawrth blaenorol.

Yr hyn sy'n ddiddorol yma ydi bod y £3m yn cael ei ddisgrifio fel 'investment' ac nid fel rhent wedi ei dalu o flaen llaw.  Rwan mae'n bosibl mai blerwch ar ran rhywun neu'i gilydd sy'n gyfrifol am hyn - ond mae'n amlwg bod taliad o £3m gan S4C yn rhan o'r cais a dderbyniodd S4C.  Y cwestiwn sy'n codi ydi sut oedd Coleg y Drindod yn gwybod na fyddai gofyn i S4C am £3m yn cael ei weld fel rhywbeth nad oedd yn gost niwtral?   Roedd niwtraliaeth o ran y gost yn amod cais llwyddiannus.  Petai amheuaeth am hyn ni fyddai'r Coleg wedi ei gynnwys yn y cais - felly mae'n dilyn ei bod yn debygol iawn bod trafodaeth rhwng y sianel a'r coleg ynglyn a'r trefniadau ariannu wedi digwydd cyn i'r cais gael ei gyflwyno.  

Ac mae yna gwestiwn arall yn codi wrth reswm - pam bod S4C a Choleg y Drindod yn credu bod grantiau o Ewrop ar gael pan nad oeddynt ar gael?  Byddai dyn yn disgwyl y byddai'r ddau gorff wedi gwirio bod y cynllun yn addas ar gyfer grantiau cyn cyflwyno a derbyn y cais ad leoli.  Efallai bod gwiriad felly wedi digwydd wrth gwrs ac mai'r ateb oedd yn wallus - ond mae'n fater sydd angen sylw.



No comments: