Thursday, February 23, 2017

Mwy o 'Fake News' gan Gwilym Trump Owen

Mae 'Fake News' yn derm sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn yn ddiweddar - yn arbennig felly yn sgil ethol Donald Trump.  Cafwyd enghraifft eithaf da yn ddiweddar pan aeth ati i honni bod ymysodiad terfysgol newydd ddigwydd yn Sweden oherwydd ei fod wedi gweld rhyw stori neu 'i gilydd am Sweden y noson cynt ar Fox News.  Roedd Donald eisiau cael dweud bod ymysodiad terfysgol wedi digwydd yn Sweden cymaint nes bod stori anghysylltiedig a therfysgaeth wedi cael ei throi yn stori felly yn ei feddwl.  Mae'n debyg mai rhywbeth felly sydd wedi digwydd efo Donald Trump Cymru, sef Gwilym Owen.  

Yn y golofn 'Plaid Cymru Bad' ddiweddaraf mae Golwg yn gadael iddo gyhoeddi pob pethefnos mae'n mynd trwy ei bethau yn ol ei arfer cyn gorffen efo'r honiad cwbl anhygoel bod hanner miliwn o gwynion ffon wedi eu gwneud i Gyngor Gwynedd' y llynedd, a bod 145,000 o'r rheiny wedi mynd ar goll.  Rwan mae hwn yn ffigwr hynod, hynod anhebygol - a byddai unrhyw un sy'n hanner o gwmpas ei bethau yn gwybod hynny.  123,000 o drigolion sy'n byw yng Ngwynedd, ac mae'n debyg bod Gwilym yn credu bod pob dyn, dynes, plentyn a babi sy'n byw yn y sir yn cwyno ar gyfartaledd bedair neu bum gwaith am y cyngor pob blwyddyn ar y ffon yn unig. 

Gan nad ydi Donald, sori Gwilym yn dweud o lle mae wedi cael y wybodaeth ryfeddol yma, mae'n debyg bod rhaid i ni geisio dyfalu.  Yr unig beth diweddar y gallaf i ddod ar ei draws ydi papur a gyflwynwyd i un o bwyllgorau craffu Cyngor Gwynedd wythnos diwethaf yn edrych ar ansawdd yr ymateb i alwadau ffon i'r cyngor.  Mae hwnnw'n nodi i tua 540,000 galwad gael eu gwneud i gyd efo'i gilydd y llynedd.  Does yna ddim gair yn yr adroddiad i awgrymu mai cwynion ydi'r galwadau - jyst y galwadau mae'r cyngor yn eu cymryd ydyn nhw.   Mae pob cyngor yn cymryd cannoedd o filoedd o alwadau pob blwyddyn.  Yn ddiamau mae rhai o'r galwadau yn gwynion - ond gallwn fod yn eithaf sicr mai cyfran bychan iawn o'r galwadau ydi 'r rheiny.  Yn wir, os ydi rhywun eisiau cwyno mae'n llawer saffach ebostio neu 'sgwennu.

Mae'r golofn yma'n llwyddo i osod safonau is ac is mewn newyddiaduriaeth pob pethefnos erbyn hyn mae gen i ofn.

No comments: