Thursday, February 16, 2017

O ble daw'r pres i achub yr Egin?

Wel - a barnu oddi wrth y trydariad yma mae yna ymdrech wedi ei gwneud i gael hyd i bres i achub yr Egin er mwyn caniatau i S4C symud i'r lle.



Felly mae yna ymgais yn cael ei gwneud i symud pres o'r gyllideb addysg - a gallwn gymryd yn ganiataol mai'r gyllideb addysg bellach ydi'r targed - byddai'n amhosibl cyfiawnhau cymryd pres o ysgolion a'i roi i Goleg y Drindod.  O ystyried mai'r gweinidog perthnasol ydi Kirsty Williams - bydd Ken Skates yn gorfod rhoi uffern o ffeit i gael ei ddwylo ar ddima goch.  

Felly beth sydd ar ol?  Wel, gellid mynd i'r arian sydd gan y llywodraeth wrth gefn wrth gwrs - ond mae yna wariant sylweddol wedi dod o'r fan honno yn ddiweddar iawn - i roi cymorth i'r Gwasanaeth Iechyd fynd i'r afael a phroblemau'r gaeaf.  Y lle amlwg arall ydi gwariant ar yr iaith Gymraeg - ond byddai dod o hyd i'r £6m llawn yn mynd a thua chwarter y gyllideb  flynyddol ar y Gymraeg.  Byddai hynny'n gwbl, gwbl anerbyniol - yn ol panel sydd wedi ei greu i gynghori'r llywodraeth does yna ddim budd ieithyddol, addysgol na chymdeithasegol ynghlwm a'r cynllun.  

Oni bai bod y peth mor ddifrifol byddai yna rhywbeth gogleisiol yn y syniad o wario lwmp o gyllideb y Gymraeg ar gynllun sydd o ddim budd i'r Gymraeg.

Mae'r holl sefyllfa yma'r tu hwnt i grediniaeth.  Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn chwilio am bres i roi grant i gorff sydd - yn ol tystiolaeth S4C i'r Pwyllgor Dethol Cymreig - efo'r adnoddau i lenwi'r bwlch ariannol beth bynnag.  Pwrpas grant ydi caniatau i rhywbeth llesol na fyddai'n digwydd heb gymorth ariannol fynd rhagddo.

Tros y dyddiau nesaf byddaf yn ysgrifennu dau lythyr - un i Archwilydd Cyffredinol Lloegr (mae'r rhan fwyaf o gyllid y sianel yn cael ei ddarparu rhwng y Bib) yn gofyn iddo edrych ar sut mae S4C wedi delio efo'r symudiad i Gaerfyrddin - ac yn arbennig felly'r blaendal o £3m mewn rhent, a'r llall i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn iddo edrych sut mae'r Drindod wedi rhoi eu cais at ei gilydd, ac ymateb Llywodraeth Cymru  i'r cais am bres i lenwi bwlch ariannol  yng nghynllun y Drindod.

No comments: