Sunday, February 26, 2017

Y DUP ac ariannu'r ymgyrch i adael Ewrop

Rhywbeth sydd wedi ei fethu gan cyfryngau Prydeinig (ond nid rhai Iwerddon) ydi'r stori fach ryfedd yma.

Yn ei hanfod yr hyn sydd yn y stori ydi bod y DUP - prif blaid unoliaethol Gogledd Iwerddon - wedi cyfrannu swm anferthol - £435k i'r ymgyrch i adael Ewrop.

Cafodd y pres ei wario yn hwyr yn ystod yr ymgyrch.  Fel rheol mae'r DUP gyda meddylfryd  blwyfol iawn ac mae'n gweithredu ar lefel hollol leol.  Fodd bynnag yn yr achos yma cafodd y pres ei wario - ymysg pethau eraill - ar hysbyseb anferth yn y Metro - papur sy'n cael ei ddarllen yn eang iawn ar dir mawr y DU - lle nad oes gan y DUP unrhyw ASau a lle nad ydynt yn sefyll mewn etholiadau.  Yn wir cafodd i bron i'r cwbl o'r pres ei wario y tu allan i Ogledd Iwerddon.

Ymddengys i grwp o gefnogwyr cyfoethog Brexit  (o bosibl cyn lleied ag un cefnogwr)  roi'r pres i'r blaid unoliaethol.  Y rheswm mae'n debyg ydi bod yr ymgychoedd i adael Ewrop wedi hen wario yr hyn roedd ganddynt hawl i'w wario yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ond bod hawl gan y DUP i wario o hyd. 
A beth ydi ffynhonnell wreiddiol yr arian?  Wel y tebygrwydd ydi bod cysylltiad efo Saudi Arabia. 
Rwan mae yna nifer o gwestiynau wedi eu codi eisoes am ariannu'r ymgyrch Gadael - mae yna ymchwiliadau i drefniadau ariannu'r ddwy ymgyrch ar hyn o bryd.  
Ond mae'r stori hefyd yn codi un neu ddau o bwyntiau diddorol.  

Yn gyntaf mae'n ymddangos bod y DUP wedi caniatau iddynt eu hunain gael eu defnyddio i alluogi i rywbeth ddigwydd sy'n groes i ddymuniadau pobl Gogledd Iwerddon a sy'n debygol o beri niwed economaidd sylweddol i 'r dalaith.  Mae'n debyg y bydd yna bris i'w dalu am hynny wythnos nesaf.

Yn ail mi fydd y cysylltiad Saudi Arabia yn anghyfforddus i rai o'n cyfeillion Islamoffobaidd.  Ymddengys bod y wlad Islamaidd mwyaf anrhyddfrydig yn ystyried Brexit fel rhywbeth cadarnhaol o'u safbwynt nhw.




No comments: