Sunday, March 12, 2017

Etholiadau lleol 2 - Ynys Mon

Ar bapur Ynys Mon ddylai fod y sir fwyaf hawdd i 'r Blaid ennill grym ynddi ar ol Gwynedd - roedd pethau'n agos yn 2013 - a 2013 oedd y dyddiad oherwydd i'r etholiadau gael eu gohirio yn sgil camau gan Llywodraeth Cymru i ddelio efo'r blynyddoedd o lanast yn sgil rheolaeth gan gwahanol grwpiau annibynnol lliwgar.

Cyn dechrau efallai y dylid nodi nad ydi edrych ar ystadegau moel ddim yn ddigon da ar Ynys Mon - mae gwleidyddiaeth yn llawer mwy personol yma, dwy egwyddor bwysig:

1). Rhaid wrth ymgeiswyr poblogaidd - beth bynnag y blaid.

2). Dydi etholwyr Mon ddim yn cael gwared o aelodau etholedig yn aml.

Roedd 2013 yn arwyddocaol am mai dyma'r tro cyntaf i'r Blaid dorri drwodd go iawn ar lefel lleol.

Ac mae pethau'n addawol i'r graddau bod yna lawer o lwybrau i 'r Blaid ennill.  Yn y bon yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi: 

1). Dal yr hyn sydd ganddi yn barod

2). Ennill 4 sedd arall i fynd o 12 i 16.

Ar bapur ni ddylai hyn fod yn ofnadwy o anodd.

Gwnaeth y Blaid yn dda - yn dda iawn yn 2013.  Ond roedd ein pleidlais yn llawer is nag un Rhun ap Iorwerth yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd.  Cafodd y Blaid 12 yn 2013 ar 32%.  Cafodd y Blaid  55% o'r bleidlais yn etholiadau'r Cynulliad.  Byddai symudiad gweddol fach oddi wrth y 32% a thuag at y 55% yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran nifer y seddi.

Pleidleisiodd rhwng 9000 a 10,000 o bobl wahanol tros y Blaid yn 2013 - roedd pobl efo mwy nag un bleidlais wrth gwrs.  Roedd pleidlais RhaI yn 13,788 yn 2016 - os ydi'r rhain yn rhoi o leiaf un bleidlais i'r Blaid dylai fod yn ddigon i ennill grym yn eithaf hawdd.

O grenshan y ffigyrau dyma fyddai symudiadau tuag at y Blaid yn ei wneud.


1). Byddai cynnydd cyson o 1% ar draws yr ynys  yn rhoi rhoi 3 aelod ychwanegol - Aethwy, Bro Rhosyr, Seiriol.  Dydi hyn ddim yn symudiad mawr - ac mae'n cael ei wneud yn haws gan y ffaith bod cynghorwyr o bleidiau eraill yn ymddeol ym mhob un o'r tair ward.  Byddai hyn yn rhoi 15 aelod - union hanner aelodaeth y cyngor.

2).  Byddai 3% o gynnydd cyson yn rhoi 3 arall - 1 yn Twrcelyn  a 2 yn Lligwy.  Byddai hyn yn rhoi 18.

3). Byddai 5% o gynnydd yn rhoi 1 arall petai ymgeiswyr ychwanegol yn sefyll - Talebolion. 

4). Byddai 8% yn rhoi seddi eraill yn Llifon, Bro Aberffraw a Chaergybi.  

Mae'r symudiadau yma i gyd yn bosibl - ag ystyried maint pleidlais graidd y Blaid.  Yr her yn Ynys Mon fydd cael digon o ymgeiswyr mewn lle i fanteisio'n llawn ar gynnydd yn y bleidlais. O wneud hynny nid oes rheswm pam na ddylai 'r Blaid reoli yma hefyd.

No comments: