Wednesday, April 05, 2017

Problemau Llafur ym Mangor yn gwaethygu

Mae'n debyg nad yw'n fawr o gyfrinach i Lafur gael coblyn o gweir gan Blaid Cymru ym Mangor yn etholiad y Cynulliad y llynedd.  Efallai na fydd hyn yn golygu llawer i'r sawl yn eich plith sy'n byw y tu allan i Arfon, ond mae'r ddinas yn gyn gadarnle i Lafur.

Mae'n ddiddorol bod y trallod yn parhau - o 11 sedd Bangor (os ydym yn cyfri Pentir sy'n cynnwys rhan o Benrhosgarnedd) pedwar ymgeisydd yn unig sydd ganddynt.  Mae gan y Blaid 11.  

Gadawodd eu hunig gynghorydd ym Mangor - Gwynfor Edwards - y nyth am y Blaid Werdd rhywbryd y llynedd.  Mae bellach wedi ail ymddangos yng Nghaerfyrddin yn sefyll i'r blaid honno.

Mae ganddynt un ymgeisydd yn llai na'r disgwyl - mae un o'u gweithwyr mwyaf diwyd a chyn gadeirydd Cymdeithas Myfyrwyr Llafur Bangor - Tom Wade - wedi ymddiswyddo o'r blaid a dydi ei enw ddim ar y rhestr ymgeiswyr.  Roedd i fod i sefyll ym Menai (Bangor) - neu Fangor Uchaf.  Ymddengys nad yw'n hapus efo camau ei blaid yn erbyn Ken Livingstone.  Mae bellach yn disgwyl i'r Blaid gael etholiadau cryf iawn yn Arfon.



3 comments:

Unknown said...

Diddorol iawn Cai. Fe aethon ni ganfasio ym Morawelon noson o'r blaen. Fi a'r ddau ymgeisydd Sir dros y Blaid.

I rywun sy'n nabod Caergybi (cyn athro Ysgol Llanfawr er enghraifft, hen gadarnle y Blaid Lafur erioed ym Mon ydy Caergybi) rhaid cofio felly fod Morawelon yn gadarnle o fewn cadarnle i'r Blaid Lafur. O'r hyn a welais i yno mae newid ar droed ac mae Llafur mewn trwbl anhygoel. Dwi bron yn methu credu'r hyn a glywsom. Taswn i ddim wedi bod yno faswn i ddim wedi credu'r peth.

Mae 9 ymgeisydd dros y Cyngor Sir yng Nghaergybi.
PC x 2
Llafur x 3
Tori x 1 (anhebygol tu hwnt y gwelwn Dori yn cael ei ethol dros Gaergybi)

Faswn i ddim yn synnu tasa'r Blaid yn cael y ddwy sedd sydd ar gael neu yn cael un efo ymgeisydd annibynnol yn cael y llall a Llafur ar 0. Gyda llaw does dim ymgeisydd UKIP yma y tro hwn chwaith.

Anonymous said...

Plaid Cymru lawr 5% yn Arfon, Llafur fynu 8% llynedd?

Cai Larsen said...

Anon 11.04 - dwi'n cymryd nad oes gennych radd mathemateg.