Monday, June 19, 2017

Ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai

Datganiad i'r Wasg gan Blaid ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai.


Siom bod llais trigolion a Phlaid Cymru Bangor wedi ei ddiystyru am ddatblygiad 366 o dai ym Mangor
Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn hynod siomedig bod Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Llafur y Cabinet dros yr Amgylchedd wedi derbyn argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio i ganiatáu’r cais i ddatblygu 366 o dai ym Mhen y Ffridd, Bangor, Gwynedd.

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer mor fawr o dai mewn un lleoliad ym Mangor. Roedd Cynghorwyr yn gwrthwynebu ar sail y buddsoddiad angenrheidiol fyddai ei angen i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus, megis y gwasanaeth iechyd ac ysgolion lleol yn ogystal â’r cynnydd mawr ddaw yn sgil y traffig ychwanegol i’r ardal.

Un arall o’r prif ffactorau i’r Blaid ym Mangor wrthod y cynnig i ddatblygu cynifer o dai mewn un ardal oedd effaith andwyol datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Cynhaliwyd trafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward. Mae’n sicr o newid ein hamgylchedd a’n cymuned ac rydym yn siomedig iawn iawn gyda phenderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn bobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag aelodau eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfod apêl.

"Does dim amheuaeth y bydd datblygiad o'r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion o Fangor, a dwi’n pryderu nad yw'r seilwaith yn ei le i ni allu delio â'r cynnydd yn y boblogaeth ddaw yn sgil cymeradwyo datblygiad o'r maint hwn yn yr ardal,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Dadleuwyd yr achos yn gryf wrth wrthwynebu’r cais bod potensial enfawr i ddatblygiad mor fawr gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth y gymuned. Mae’n siom enfawr nad yw Ysgrifennydd Llafur Cabinet Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cydnabod y pryder am y Gymraeg yn ei llythyr. Mae’n dangos difaterwch llwyr gan Llywodraeth Cymru.”

Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Roberts: "Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal."

“Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn,” ychwanegodd Y Cynghorydd Gareth Roberts.

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: "Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Yn anffodus, dwi’n siomedig iawn bod y cais wedi ei ganiatáu ac yn bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i'r ardal.

"Fel Plaid, byddwn yn parhau i gydweithio a phwyso ar y llywodraeth yn Llundain i ddatganoli grym cynllunio o Lundain i Gymru. Dim ond bryd hynny y gall trigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged ein cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig."

No comments: