Saturday, August 12, 2017

Cylch rhagfarn y Bib

Reit 'ta cyn bod yr eitem ar Newsnight wedi codi'n ddiweddar waeth i ni ddweud gair neu ddau am y mater.  

Wna i ddim dweud llawer am Mr Ruck - mae  wedi bod wrthi'n gwyntyllu ei ragfarnau yn erbyn y Gymraeg ers blynyddoedd maith ar unrhyw blatfform sy'n fodlon ei gymryd.  Yr unig gysylltiad dwi wedi ei gael efo'r dyn mewn gwirionedd oedd pan enillodd y blog yma rhyw fan wobr neu'i gilydd flynyddoedd yn ol, ac aeth ati i gysylltu efo fi ar lein i gwyno bod fy mlog yn derbyn ffafriaeth, ac i holi beth ddylai fo ei wneud i gael gwobr.  Awgrymais y byddai'n syniad da iddo ysgrifennu blog mae pobl yn mwynhau ei ddarllen a rhoi cyhoeddusrwydd iddo.  Chlywais i ddim byd pellach.



Ta waeth, mae'r holl stori yn ddiddorol am resymau amgenach nag ansicrwydd gwaelodol yng nghymeriad Mr Ruck - mae'n dweud wrthym rhywbeth am ragfarnau Seisnig a sefydliadol.

Roedd y drafodaeth ar Newsnight wedi ei sbarduno gan newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn ei darpariaeth ar gyfer hybu'r Gymraeg.  Dylai trafodaeth ar hynny wedi bod yn drafodaeth gweddol gysact a thechnegol - ond rhywbeth llawer mwy cyffredinol ac amrwd  a gafwyd. 

Mae thesis canolog yr eitem - bod y Gymraeg yn rhwystr i Gymru - yn hen, hen ragfarn.  Mae'n mynd yn ol - o leiaf - i'r Ddeddf Uno, ac roedd yn ganolog i'r feddylfryd roddodd Brad y Llyfrau Gleision i ni. Y rheswm i'r eitem gael ei fframio o gwmpas y rhagfarn yma ydi nad oedd y sawl oedd gan yn ymchwilio ar gyfer yr eitem fawr o wybodaeth am y Gymraeg, doedd ganddi hi ddim diddordeb mewn dysgu unrhyw beth am y Gymraeg, felly 'doedd ganddi ond ei rhagfarnau i dynnu arnynt.  Ac wedyn aeth ati i gael dau berson nad oedd yn gwybod fawr ddim am y Gymraeg i drafod y pwnc - gydag un ohonynt efo casineb obsesiynol tuag at y Gymraeg.

Mae gennym gylch ar waith yma sy'n atgyfnerthu ei hun.  Mae'r Bib (yn Lloegr) yn tynnu ar ragfarnau Seisnig wrth ymdrin a'r Gymraeg, maent yn darlledu stwff sy'n adlewyrchu'r rhagfarnau hynny, ac mae hynny yn ei dro yn adgyfnerthu'r rhagfarnau gwaelodol hynny.  Ac wedyn maent yn tynnu arnynt eto _ _.

Mae rhai o'r rhagfarnau Seisnig a chyfryngol tuag at y Gymraeg yn creu cyd  gwenwynig lle mae'n eithaf hawdd mynegi safbwyntiau hynod hyll mewn perthynas a'r iaith.  Y gwaethaf o'r rhain ydi'r canfyddiad nad oes fawr neb yn siarad yr iaith a'i bod yn cael ei chynnal yn llwyr gan bres cyhoeddus.  

Hynny yw mae'r iaith yn cael ei chynrychioli fel rhywbeth sydd ddim yn ymwneud a phobl - rhywbeth ar wahan, rhywbeth sy'n byw mewn geiriadur.  Mae'r Bib yn deall yn iawn bod ymosod ar Fwslemiaeth, neu Iddewiaeth neu Babyddiaeth yn ymosodiadau ar gymunedau o bobl, ond dydi'r geiniog bod ymysod ar y Gymraeg yn annad dim yn ymysodiad ar y bobl sy'n ei defnyddio wrth ryngberthnasu efo'i gilydd ddim wedi syrthio - a'r rheswm am hynny ydi'r cylch o ragfarn sy'n gyrru ymdriniaeth y Bib o Gymru.

Mae yna ragfarnau ehangach yn Lloegr (ac ym mhob man arall wrth gwrs), ond at ei gilydd mae'r Bib yn ceisio ymdrin yn gyfrifol a'r rheiny - fyddwn ni ddim yn cael dyn mewn gwisg Klu Klux Klan yn trafod cyfraniad Iddewon i fywyd Prydain, 'dydan ni ddim yn cael dau Sais dosbarth canol yn trafod tensiynau ar strydoedd Gogledd Iwerddon ac mae'r amrywiaeth barn ynglyn a'r amrywiaeth mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael ei adlewyrchu - i raddau o leiaf.

Mae'r ffaith bod y math yma o beth yn digwydd yng nghyd destun Cymru ynddo'i hun yn adlewyrchu rhagfarn gwrth Gymreig oddi mewn i'r Bib - dydi'r wlad a'i phethau ddim gwerth trafferthu llawer ynglyn a nhw -mater dibwys, ymylol - rhyfedd braidd.   

Ymddengys bod y rhagfarn hwnnw hyd yn oed yn amlygu ei hun yn y ffordd mae'r Gorfforaeth yn rhyngberthnasu'n fewnol.  Mae'n hen thema ar y blog yma bod y Bib yng Nghymru yn gweld ei hun fel cydadran o'r sefydliad yng Nghymru a bod hynny'n lliwio'r ffordd mae'n ymdrin ag endidau sefydliadol eraill yng Nghymru.  Ond 'does yna ddim amheuaeth bod ganddi gyfoeth o bobl sydd a dealltwriaeth o'r tirwedd cymdeithasol a gwleidyddol yma.  Ond - o safbwynt y Bib yn ganolog - 'doedd eu cyngor nhw ynglyn a pharatoi'r eitem ddim gwerth mynd ar ei ol.  I'r rhagfarnllyd mae canfyddiad bras, cwrs, cyffredinol pob amser yn well na manylder, ffeithiau ac ymwybyddiaeth  o nuance

Mae'n ddiddorol gyda llaw mor rhyfeddol o gyndyn oedd staff y Bib yng Nghymru i feirniadu'r rhaglen yn gyhoeddus - bron fel petaent yn ofn gwneud hynny.  Dwi'n gwybod bod yna'r fath beth a theyrngarwch corfforaethol  - ond mewn cylchoedd gwaith eraill mae beirniadaeth adeiladol yn dderbyniol - hyd yn oed pan mae'r feirniadaeth honno'n gyhoeddus.  Mae'n ymddangos bod yr hogiau a'r genod yng Nghymru yn ymwybodol o'u statws oddi mewn i'r Gorfforaeth.

A chyn gorffen - a rhag i mi fod yn rhy garedig efo staff y Bib yng Nghymru - dydi mynd o gwmpas yn gofyn i bobl 'What do you think of the Welsh language' ddim yn syniad da.  'Dydi'r Gorfforaeth ddim yn anfon gohebwyr o gwmpas yn holi 'What do yoy think of Urdu' neu Bengali neu beth bynnag.  'Dydyn nhw yn sicr ddim yn anfon neb o gwmpas yn holi beth ydi barn pobl am grefyddau, a dydyn nhw ddim yn anfod pobl o gwmpas yn holi pobl beth yw eu barn am wahanol leiafrifoedd ethnig.  Mae yna reswm da am hynny - ymarferiad mewn troi'r drol neu wthio'r cwch i'r dwr fyddai fo - creu trwbl.  Nid dyna ydi pwrpas y Bib - ac mae'r ffaith bod gohebwyr o Gymru yn gwneud hyn yn awgrymu bod rhai o ragfarnau'r Bib yn Lloegr yn ymestyn i Gymru hefyd.

No comments: