Tuesday, February 06, 2018

Alun a Glannau Dyfrdwy

Reit - gair brysiog ynglyn ag is etholiad heddiw yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

Wele'r canlyniad yn 2016:



Yn anarferol iawn yn y DU bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth.

Dydi hi ond y 4ydd is etholiad yn hanes y Cynulliad.  Y lleill oedd:

Ynys Mon 2013 (42.4% cyfradd pleidleisio) 

Blaenau Gwent 2006 (50.5%) 

 Dwyrain Abertawe 2001 (22.6%). 

A chofio bod  y gyfradd pleidleisio yn yr etholaeth yma'n isel iawn fel rheol beth bynnag (35% yn 2016), y ffaith bod yr etholiad yn cael ei chynnal ynghanol gaeaf ac nad ydi'r tywydd yn dda mae'n bosibl y bydd y 22.6% a gafwyd yn Nwyrain yn cael ei herio.  

Rhywbeth sy'n gyffredin i'r dair ydi bod y bleidlais Llafur a'r bleidlais Doriaidd wedi syrthio cryn dipyn pob tro o gymharu a'r etholiad blaenorol.  Mae record Plaid Cymru yn fwy cymysg.



Llafur sydd wedi dal yr etholaeth ym mhob etholiad San Steffan a cynulliad ers ei chreu, ac maent yn ffefrynnau i ddal yr etholaeth heno.  Ond ar gyfraddau pleidleisio isel iawn gall pethau anisgwyl ddigwydd.  Yn ychwanegol at hynny fydd y ffaith i'r ymgeisydd Llafur jibio'r ddadl deledu ddim wedi gwneud llawer o les iddo - mae gan jibio dadleuon hanes diweddar digon negyddol o ran yr effaith etholiadol.  Ond wedi dweud hynny mae Llafur yn boblogaidd yn y polau Prydeinig ar hyn o bryd - ac mae'r ardal yma o Gymru yn adlewyrchu gwleidyddiaeth y DU mwy nag unrhyw le arall yng Mghymru.A son am y ddadl deledu, mae'n weddol amlwg bod ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper ben ag ysgwydd yn well na'r tri ymgeisydd arall yn y ddadl.

Felly Llafur yn debygol o ennill - ond cyfle da i Carrie symud y Blaid yn ei blaen yn yr etholaeth.


2 comments:

Anonymous said...

Plaid Cymru wedi gwneud dim argraff o gwbl eto. Hyd yn oed y Lib Dems wedi gwella. Dw i'n gweld y blaid yn crebachu'n gyflym iawn wrth i'r arweinydd ei harwain i nunlle.

Anonymous said...

Ar sail un is etholiad yn Alun a Glannau Dyfrdwy o bob man?