Wednesday, April 11, 2018

Plaid Lafur Arfon - eto fyth

Mae’n debyg gen i y bydd darllenwyr Blogmenai sy’n byw yn Arfon yn falch o ddeall bod mae gan Mary Gwen Griffiths - ymgeisydd Llafur yn yr etholiad San Steffan nesaf yn yr etholaeth - gyfri trydar.

Tra nad ydi’r cyfri yn un arbennig o gynhyrchiol ar hyn o bryd mae’r hyn sydd i’w weld yn amlwg yn nhraddodiad ymgyrchu’r Blaid Lafur yn Arfon i’r graddau ei fod braidd yn - ahem - gynnil efo’r gwirionedd.

Er enghraifft ystyrier y trydariad yma.  Cyfeiriad ydyw wrth gwrs at gynlluniau Cyngor Gwynedd i dorri cyllid ac ail fodelu’r gwasanaeth ieuenctid yng Ngwynedd.  Rwan mae’n gwbl briodol i Mary beidio hoffi’r ail fodelu, ac mae hefyd yn briodol i wrthwynebu’r toriad cyllidol - cyn belled a bod ganddi ei syniadau ei hun am ble arall y dylid gwneud y toriad.  


Yr hyn sydd yn briodol fodd bynnag ydi awgrymu nad oes yna unrhyw ymgynghori wedi bod ynglyn a’r mater.  Mae yna lawer iawn o ymgynghori wedi bod - gormod o bosibl - fel mae’r ddelwedd isod yn amlygu.



A daw hyn a ni at y toriadau yn gyffredinol.  Mae yna doriadau ar y ffordd - ac mae’n bosibl y bydd rhaid i gynghorau megis Cyngor Gwynedd wneud toriadau sylweddol fydd o bosibl werth degau o filiynau.  Mae’r Blaid Lafur yn Llundain bellach yn erbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus wrth gwrs - ond datblygiad cymharol ddiweddar ydi hwnnw.  Yn wir yn 2015 roedd Llafur yn ddigon parod i fynd trwy’r lobiau efo’r Toriaid i bleidleisio tros doriadau - a’r toriadau hynny oedd yn gyfrifol am lawer o boen y blynyddoedd diwethaf.

Ond o ran plaid Mary Gwen yng Nghaerdydd, mae ganddynt gyfrifoldeb tros yr hyn sy’n digwydd yng Ngwynedd ac ym mhob cyngor arall yng Nghymru.  Er iddynt dderbyn 2.6% yn eu cyllid o San Steffan ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, 0.6% yn unig gafodd ei drosglwyddo i lywodraeth leol.  Mae hyn yn doriad sylweddol mewn termau real.


Dwi’n siwr y gallwn ddisgwyl llawer o dantro o’r cyfri’ ebost yma fel y bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud toriadau tros y blynyddoedd nesaf - ond yr hyn na fyddem yn ei weld yno ydi’r bai yn cael ei briodoli’n onest - mae’n gorwedd yn sgwar ar ysgwyddau Llafur Cymru a’u cyd unoliaethwyr ym mhlaid Doriaidd y DU.











No comments: